SPACES
TAITH
Y Fynedfa
Yn y Cyntedd mae grisiau i’r ystafell uwch ben a mynediad i swyddfa’r rheolwr.
Mae mynediad llawn i’r anabl yn y ganolfan.

Y Swyddfa
Mae’r rheolwr a staff arall wedi eu lleoli yma ac ar gael i ateb eich cwestiynau.

Yr Orielau
Mae’r ystafelloedd yn cynnig gofod oriel ac fe gânt eu defnyddio hefyd ar gyfer gweithdai a dosbarthiadau cerdd.

Crochenwaith
Cynlluniwyd yr ystafell fel cartref i’r gweithdai crochenwaith am hyd at 20 o fyfyrwyr. Mae sawl olwyn crochenydd, ystafell sychu ac odyn ar gyfer tanio’r crochenwaith.

Yr Ystafell Werdd
Gellir defnyddio’r ystafell hon fel man cyfarfod gyda lle i hyd at 25 o bobl, yn ôl trefniant gyda’r rheolwr.

Ystafell Arlunio Byw
Mae standiau arlunio yma ar gyfer 16 o artistiaid yn ogystal â sinc.

Ystafell Aml Gelfyddyd
Defnyddir yr ystafell sydd â digon o olau naturiol ar gyfer gweithdai sy’n cynnwys batik ac arlunio.

Y Theatr
Mae golau llwyfan safon uchel gan y theatr a llwyfan ar gyfer perfformiadau a digwyddiadau eraill.

Y Caffi
Mae’r Caffi yn cynnig bwyd a diod oer a phoeth trwy gydol y dydd. Mae Wi-Fi am ddim yn yr adeilad.

Y Trydydd Llawr
Rydym yn datblygu'r trydydd llawr i gynnal y dosbarthiadau Gwydr a Gemwaith Stained newydd sy'n dechrau ym Medi 2018 - gwyliwch y gofod hwn ...
