top of page

ANDANOM NI

 Dyddiau Cynnar

Ar droad yr 20fed ganrif, adeiladodd William Symonds, adeiladwr o Gaerdydd ers 1880 ac aelod o Gyngor Caerdydd 1882-1889, rif 17 Romilly Road, tŷ sengl brics coch Edwardaidd fel cartref teuluol iddo’i hun.  Arhosodd yn gartref preifat tan 1937 pan adawodd y meddianwyr olaf, Mr Harold Haslam a’i deulu, yr eiddo. 

John James Jackson; Syniadau Cynnar 

Bu John James Jackson (1864-1943), Cyfarwyddwr Addysg cyntaf (1940) Pwyllgor Addysg Dinas Caerdydd, yn byw am gyfnod yn y 1920au yn 17 Romilly Road. Argymhellodd fod y ddinas yn prynu adeilad ar Heol y Porth a chreu gwasanaeth ‘Wedi Gofal’ ar gyfer y llu o fechgyn a merched di-waith yn y ddinas. Cafodd ei adnabod fel Jackson Hall, wedyn yn glwb nos Jackson’s ac erbyn hyn mae’n siop nwyddau i Undeb Rygbi Cymru. 

Yn ystod dirwasgiad economaidd y 1930au, gwelodd Caerdydd gynnydd mawr yn niferoedd y bobl ifanc di-waith. Dim ond 25% aeth i Ysgolion Gramadeg ac o ganlyniad roedd nifer o bobl ifanc yn y Ddinas bryd hynny oedd wedi derbyn addysg wael, heb gymwysterau ac a oedd yn ddi-waith. 

Ym 1938, fel rhan o gyfres o fesurau i ddatrys y broblem, prynodd Pwyllgor Cyflogaeth Pobl Ifanc Dinas Caerdydd brydles ar 17 Romilly Road er mwyn ei weddnewid yn Ganolfan Gyfarwyddo Cyflogaeth i Ferched Ifanc – Tan hynny cawsant eu cartrefu gyda’r bechgyn yn Jackson Hall. 

Beth sydd mewn Enw?

Ystyriwyd enwau ar gyfer y ganolfan newydd gan y pwyllgor ar 17 Mawrth 1938. Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg enwau nifer o ferched amlwg yn Hanes Cymru oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â’r Diwylliant Cymraeg. Cynigiwyd ‘The Lady Llanofer Hall’ a gofynnwyd i gadeirydd y Pwyllgor holi caniatâd gan ymddiriedolwyr Ystâd Llanofer i gael defnyddio’r enw. 

Ysgol Dros Dro 

Wedi 1941, defnyddiwyd y Neuadd fel cartref i ddisgyblion pan fomiwyd Ysgol Uwchradd Treganna yn rhannol. Parhaodd y defnydd hwn tan y 1960au cynnar pan agorwyd Ysgol Uwchradd Cantonian yn Y Tyllgoed.  Yng nghanol y 1960au, datblygodd Alun Higgins, Gweithiwr Ieuenctid a gyflogwyd gan yr Awdurdod Addysg Lleol, syniad o ‘Weithdy Celfyddyd Gyfoes’ i bobl ifanc ac ym 1966 fe ddefnyddion nhw Jackson Hall fel lleoliad. 

Y flwyddyn ddilynol, gwerthodd yr Awdurdod yr adeilad a bu’n rhaid i’r grŵp ddod o hyd i gartref newydd.  Ym 1967, cynigiwyd ystafelloedd iddynt mewn adeilad arall sef y Coleg Technoleg Bwyd ar Heol y Crwys. Crëwyd gweithdy celf gyfoes newydd.  Eto, yn ddirybudd, gwerthwyd yr adeilad fel storfa i archfarchnad. Cynhaliwyd protest yn erbyn cau’r adnodd gan aelodau’r grŵp yn Neuadd y Ddinas. 

Ym 1968 cynigiwyd neuadd Llanofer iddynt fel lleoliad a threuliwyd blwyddyn yn  atgyweirio, paentio ac ailwampio’r ganolfan er mwyn paratoi ar gyfer’ y defnydd newydd arno’.

Ym 1969 dechreuodd Neuadd Llanofer ar weithgareddau celf newydd y Ganolfan. Y nod oedd ‘cynnig y cyfle i bobl ifanc ddilyn eu diddordebau yn y celfyddydau’.  Ym 1978 agorwyd y Ganolfan i bob oedran a gallu a phenodwyd Tony Goble yn artist preswyl.

Ym 1993 roedd y Ganolfan yn wynebu cael ei chau ac yn dilyn sawl gwrthdystiad cyhoeddus a ffurfio Cwmni Elusennol, Llanover Hall Community Arts Limited, rhoddwyd grant o £50,000 gan y Sefydliad dros Chwaraeon a’r Celfyddydau. Defnyddiwyd y grant i ehangu darpariaeth y Ganolfan.

Ym 1998 yn dilyn cadarnhad gan Gyngor Dinas Caerdydd y byddai’r Ganolfan yn para am y 25 mlynedd nesaf, rhoddwyd grant o £398,000 gan Gyngor y Celfyddydau ar gyfer gwaith adeiladu ac ailwampio.  Yn dilyn hynny rhoddwyd £41,000 pellach i gynnig Gwasanaeth Allgymorth i gynnwys ysgolion ac fel bod tiwtoriaid yn gallu manteisio ar leoliadau mewn colegau, ysgolion a chanolfannau cymunedol.

Ers agor yr adeilad newydd yn 2000 mae’r ganolfan wedi rhedeg cyrsiau cyffrous ar grochenwaith, celf, crefftau, gwaith argraffu, tecstilau, celfyddyd gyfrifiadurol a ffotograffiaeth, dawns, drama a cherddoriaeth. Mae pobl ifanc ac oedolion wedi gallu dechrau a datblygu eu creadigrwydd.  O dan reolaeth newydd mae’r ganolfan wedi cael ei gwella, mae dosbarthiadau newydd yn cael eu datblygu ac mae gwaith gydag ysgolion a phartneriaid creadigol eraill yn dod â dysgwyr newydd i’r ganolfan. Mae Ymddiriedolwyr Elusen Celfyddydau Cymunedol Neuadd Llanofer yn gobeithio y bydd y wefan hon yn rhoi’r mynediad a’r anogaeth  i’r cyhoedd – hen ac ifanc – sydd ei angen arnynt er mwyn manteisio ar y cyfleodd mae’r Ganolfan yn eu cynnig. Byddwn yn parhau i gynnig ‘Agor Drws Celfyddyd i Bawb’.

bottom of page